Irfon IorwerthJONESDymuna Aled, Helen, Elin a Mared, teulu'r diweddar Irfon Iorwerth Jones, 10 Ffordd Llifon, Llangefni ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli tad, dadcu a chyfaill arbennig iawn. Gwerthfawrogwyd y galwadau ffôn, y cardiau cydymdeimlad, y negeseuon ar y wê a'r geiriau caredig ynddynt. Diolch i Feddygfa Tal-y-Bont, Llangefni a Ward Dulas, Ysbyty Gwynedd am eu gofal cyson o Irfon dros gyfnod ei salwch. Yr ydym yn ddyledus iawn hefyd i'r Parchedig John Morgan Jôb, cyfaill gydol oes i Irfon ar teulu, am ei arweiniad yn y gwasanaethau yn Amlosgfa Bangor ac ar lan y bedd yn Nhalybont, Ceredigion a fu'n fugeiliaeth gynhaliol i ni. Diolch hefyd i'r ymgymerwyr, R&A Hughes a'i fab Llangefni, am ei gwaith trylwyr gyda'r trefniadau. Yn olaf, diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Irfon tuag at Feddygfa Tal-y-Bont a Ward Dulas, Ysbyty Gwynedd.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Irfon